Mae Byron Davies, Cadeirydd Plaid Geidwadol Cymru, yn gyn-AS dros Gŵyr, a Byron oedd y Ceidwadwr cyntaf i gynrychioli Gŵyr ar ôl cipio'r sedd oddi wrth Lafur am y tro cyntaf ers 109 mlynedd. Ganwyd a magwyd Byron yn lleol, mae'n gyn-uwch swyddog yr heddlu, yn Llywydd Cymdeithas Gŵyr, a chafodd ei urddo'n Farwn Davies o Gŵyr ym mis Hydref 2019.