Cafodd Simon ei ail-ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro am y pedwerydd tro ym mis Rhagfyr 2019 gyda mwyafrif o bron 8,000.
Penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 16 Rhagfyr 2019, a chyn hynny roedd yn Ysgrifennydd Seneddol (Gweinidog dros Weithredu) yn Swyddfa'r Cabinet.
Ers iddo gael ei ethol i'r Senedd, mae Simon wedi bod yn aelod o nifer o bwyllgorau, yn cynnwys:
- Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymraeg;
- Pwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig;
- Pwyllgor Dethol Diwygio Cyfansoddiadol a Gwleidyddol;
- Pwyllgor Dethol Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon
Mae Simon wedi bod yn aelod/Cadeirydd nifer o Grwpiau Hollbleidiol Seneddol hefyd, yn cynnwys Twristiaeth yng Nghymru, Dysgu tu allan i'r Ystafell Ddosbarth, Ynni'r Môr a Morlynnoedd Llanw, Masnach gyda’r UE/UDA, ac eraill.
Bu hefyd yn Gennad Masnach y Prif Weinidog i Panama, Costa Rica a’r Weriniaeth Ddominicanaidd.
Cyn cael ei ethol, bu Simon yn Brif Weithredwr y Gynghrair Cefn Gwlad, sef grŵp lobïo mwyaf Ewrop ar faterion gwledig, am saith mlynedd. Daeth yn Gadeirydd y Gynghrair ym Medi 2015. Mae ganddo ddiddordeb hirsefydlog mewn dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth a adlewyrchir yn ei waith fel cadeirydd grŵp elusennol sy'n gweithio gyda'r Llywodraeth ar y pwnc hwn, ac yn ei benodiad yn ymgynghorydd addysgol i'r Gynghrair Cefn Gwlad.
Bu’n gweithio cyn hynny fel syrfëwr siartredig yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd a gwasanaethodd gyda'r Fyddin Diriogaethol am saith mlynedd.
Mae'n 57 oed ac mae'n byw ger Arberth gyda'i wraig a’u dau o blant.