Cafodd Virginia ei hethol am y tro cyntaf yn 2019 ‒ yr AS Ceidwadol cyntaf i gael ei hethol i gynrychioli Ynys Môn ers 32 mlynedd, a'r fenyw gyntaf ers 70 mlynedd.
Ar ôl dilyn gyrfa ym myd cynhyrchion fferyllol gyda GlaxoWellcome, ac fel Cyfarwyddwr yn UBS a HSBC, ailhyfforddodd Virginia fel athrawes Fathemateg a bu'n addysgu oedolion difreintiedig am bedair blynedd. Fel cadeirydd yr elusen ‘Save the Baby’ yn Ysbyty'r Santes Fair, Paddington, mae Virginia wedi helpu i godi arian i gefnogi ymchwil i gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd cynnar ac erthyliad. Helpodd Virginia i lansio'r elusen IntoUniversity a bu’n gweithio fel mentor hyfforddwr i’r elusen ParentGym. Fel Cyfarwyddwr Women2Win, arweiniodd Virginia yr ymgyrch i gynyddu nifer y menywod Ceidwadol mewn llywodraeth leol ac yn y Senedd.
Mae Virginia wedi ysgrifennu i nifer o gyhoeddiadau yn cynnwys The Times, The Independent, ConHome a Reaction.
Mae Virginia yn briod gyda thri o blant, a Sbaengi adara. Maen nhw'n mwynhau gweithgareddau awyr agored a bod yn rhan o gymuned Ynys Môn.