Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Simon Baynes AS

  • Tweet
Aelod o Senedd y DU dros Dde Clwyd.
  • MP

Cafodd Simon Baynes ei ethol yn AS dros Dde Clwyd yn Rhagfyr 2019. Magwyd Simon yn ardal Llyn Efyrnwy lle'r oedd ei dad yn rhedeg gwesty. Aeth i'r ysgol yn Yr Amwythig ac astudiodd hanes yng Nghaergrawnt. Wedi hynny, bu’n gweithio ym myd cyllid a busnes am 25 mlynedd cyn agor ei siop lyfrau yn Yr Amwythig ac ysgrifennu dau lyfr. Mae'n briod â Maggie ac mae ganddynt ddwy ferch. Sefydlodd Simon a Maggie yr elusen genedlaethol, Concertina ‒ Music for the Elderly, sy'n darparu cerddoriaeth fyw mewn cartrefi gofal a chanolfannau dydd ar draws Cymru a Lloegr.

Materion cymunedol yw blaenoriaeth wleidyddol barhaus Simon – pan oedd yn Gynghorydd Sir, yn Gynghorydd Tref a Maer Llanfyllin yng ngogledd Powys, ac yn ei rôl bresennol fel AS dros Dde Clwyd. Ei brif ffocws yw helpu etholwyr gyda'u problemau a'u pryderon o ddydd i ddydd, yn enwedig yn sgil effeithiau'r argyfwng Coronafeirws. Mae'n cefnogi gweithwyr iechyd a sefydliadau iechyd lleol yn gryf gan fod y rhain wedi gwneud cymaint i gadw pobl De Clwyd yn ddiogel yn ystod y pandemig. Mae hefyd yn cefnogi mudiadau gwirfoddol ac elusennau lleol sydd wedi llenwi llawer o'r bylchau yn y ddarpariaeth, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sy'n agored i niwed.

Mae Simon yn ymgyrchu hefyd dros wella band eang a signal ffonau symudol yn Ne Clwyd ac mae'n cydweithio'n agos gyda busnesau twristiaeth a lletygarwch gan iddo gael ei ethol yn ddiweddar yn Ddirprwy Gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Letygarwch a Thwristiaeth. Cychwynnodd diddordeb Simon mewn dyfrffyrdd yn ystod gwyliau ar gwch camlas ar Gamlas Llangollen pan oedd yn ei arddegau. O ganlyniad daeth yn Ddirprwy Gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ddyfrffyrdd.

Am ei fod wedi byw yng Nghymru wledig am y rhan fwyaf o'i oes, mae Simon yn ystyried bod cefn gwlad, ffermio a'r amgylchedd, ac yn enwedig pwysigrwydd y newid yn yr hinsawdd, yn greiddiol i’w waith fel AS. Mae’n adeiladu ar ei brofiad blaenorol fel Cadeirydd Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru ac wrth sefydlu gardd gymunedol Cae Bodfach. Mae'r celfyddydau a threftadaeth yn faes allweddol arall sydd o ddiddordeb gan fod Simon yn gerddor sy’n chwarae'r organ mewn gwasanaethau eglwys. Mae’n gyn-Ymddiriedolwr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac Opera Canolbarth Cymru, a bu’n Gadeirydd cyntaf Theatr Gymunedol Holroyd ger Y Waun.

Mae Simon yn cefnogi busnesau lleol yn gryf, o gwmnïau cynhyrchu i siopau annibynnol. Mae'n ymrwymedig i wella’r cysylltiadau trafnidiaeth i Dde Clwyd, yn cynnwys ymgyrchu dros welliannau i'r A483/A5, a chreu mynediad heb risiau yng nghorsaf drenau Rhiwabon. Mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig ac yn Drysorydd  y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gymru yn y Byd sy'n hybu Cymru ar lwyfan y byd.

Simon Baynes

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd
  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Arweinwyr Grwpiau Cyngor

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi
  • MP

Rhoi

Mae angen i ni feithrin llais cryf i’r Ceidwadwyr lleol ac ni allwn wneud hyn heb eich help chi.

Bydd unrhyw rodd yn gwneud gwahaniaeth.

accepted-payment-cards

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2023 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree