Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Sarah Atherton AS

  • Tweet
Aelod o Senedd y DU dros Wrecsam.

Ym mis Rhagfyr 2019, cafodd Sarah ei hethol i gynrychioli Wrecsam ‒ y Ceidwadwr cyntaf i gynrychioli'r etholaeth ers iddi gael ei chreu yn 1918, gan drosi mwyafrif Llafur o 1,832 yn fwyafrif o 2,131 i'r Ceidwadwyr. Sarah yw'r fenyw gyntaf i gynrychioli Wrecsam a'r AS Ceidwadol benywaidd cyntaf i gael ei hethol i San Steffan i gynrychioli etholaeth Gymreig.

Ers iddi gael ei hethol, mae Sarah wedi cael ei phenodi'n Ysgrifennydd Seneddol Preifat Swyddfa Cymru ac mae’n gweithio'n agos gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sicrhau bod buddiannau Wrecsam yn cael eu cynrychioli yn San Steffan.

Fel cyn-filwr ac aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn, mae Sarah wedi siarad yn aml o blaid hawliau personél milwrol ac mae wedi galw am roi terfyn ar hawliadau blinderus yn erbyn cyn-filwyr. Yn ogystal, cafodd Sarah ei phenodi'n ddiweddar yn Is-gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gyn-filwyr.

Cyn iddi ymglymu wrth wleidyddiaeth, hyfforddodd a gwasanaethodd Sarah fel nyrs yn Ysbyty Wrecsam Maelor, ac yna fel nyrs ardal. Am ei bod yn deall y cyswllt anorfod rhwng iechyd a lles cymdeithasol, aeth Sarah yn ei blaen i hyfforddi fel gweithiwr cymdeithasol gan arbenigo mewn pobl hŷn ac iechyd meddwl.

Oherwydd ei brwdfrydedd dros helpu pobl a gwella'i chymuned, cafodd Sarah ei  hysbrydoli i ymglymu wrth fyd gwleidyddiaeth. Ym mis Mai 2017, etholwyd Sarah i'w Chyngor Cymuned lleol ac mae wedi gweithio gydag amrywiol fentrau cymunedol.

Sarah Atherton

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd
  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Arweinwyr Grwpiau Cyngor

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi
  • MP

Rhoi

Mae angen i ni feithrin llais cryf i’r Ceidwadwyr lleol ac ni allwn wneud hyn heb eich help chi.

Bydd unrhyw rodd yn gwneud gwahaniaeth.

accepted-payment-cards

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2022 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree