Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Russell George AS

  • Tweet
Aelod Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn. Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid.
  • Aelodau’r Senedd Cymru

Aelod Senedd Cymru dros Sir Drefaldwyn.

 

Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid.

Mae Russell George yn aelod y Ceidwadwyr Cymreig dros Sir Drefaldwyn yn Senedd Cymru gan gynrychioli'r etholaeth ers 2011. Russell yw Gweinidog yr Wrthblaid dros Fusnes, Yr Economi a Seilwaith gyda chyfrifoldeb yr wrthblaid dros Ganolbarth Cymru. Mae hefyd yn Cadeirio Pwyllgor Yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn Senedd Cymru.

Ganwyd Russell yn y Trallwng yn 1974 a chafodd ei fagu a'i addysgu yn Sir Drefaldwyn. Mae ganddo radd mewn Astudiaethau Gwybodaeth a'r Cyfryngau o Brifysgol Canolbarth Lloegr. Cafodd Russell ei ethol i Gyngor Sir Powys yn 2008 ac roedd yn aelod o fwrdd rheoli gweithredol y Cyngor rhwng 2008 a 2011.

Pan etholwyd Russell i Senedd Cymru yn 2011, cafodd ei benodi'n Weinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy cyn dod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig rhwng 2014 a 2016. Ym mis Mai 2016, dychwelwyd Russell i Senedd Cymru gyda mwyafrif uwch.

Rhwng 2013 a 2016, sefydlodd a chadeiriodd Russell y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol yn Senedd Cymru a ymgyrchodd dros wella argaeledd band eang cyflym iawn a signal ffonau symudol yng Nghymru. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, roedd yn aelod gweithgar o Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd a Phwyllgor Deisebau Senedd Cymru. Ar hyn o bryd mae'n Cadeirio'r Grŵp Trawsbleidiol ar Drafnidiaeth.

Ei flaenoriaethau presennol yw diogelu a gwella gwasanaethau cyhoeddus lleol i bobl Sir Drefaldwyn. Mae Russell hefyd yn frwd dros annog pobl iau i ymglymu wrth fywyd cyhoeddus ac mae'n awyddus i gefnogi ac annog twf busnesau newydd a busnesau bach. Gweithiodd Russell yn galed i hyrwyddo ffordd osgoi'r Drenewydd ac mae’n ymgyrchu dros wella band eang yn ardaloedd gwledig Cymru. Mae hefyd wedi bod wrthi’n lobïo dros gael Bargen Twf Canolbarth Cymru i’r rhanbarth.

Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys Achyddiaeth. Mae'n Llywydd Cyngor Ardal Sgowtiaid Sir Drefaldwyn ac yn Ddirprwy Lywydd Cymdeithas MND Sir Drefaldwyn. Mae hefyd yn Is-lywydd Ymddiriedolaeth Adfer Dyfrffyrdd Trefaldwyn, yn aelod o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn, ac yn aelod o Eglwys Hope yn Y Drenewydd. Fel y cyfryw, mae wedi bod ynghlwm wrth lawer o brosiectau sy'n cefnogi'r gymuned.

Cyn iddo gael ei ethol i Senedd Cymru, roedd Russell yn gynghorydd tref, yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o Fwrdd Coleg Powys, ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli Theatr Hafren.

Russell George

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi

Rhoi

With your help we're building a strong voice for local Conservatives.

Any donation will make a difference.

accepted-payment-cards

Cysylltwch â Russell

Senedd Cymru
Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN

Caerdydd: 0300 200 7228
Y Drenewydd: 01686 610 887

 

[email protected]
www.russellgeorge.com

Facebook russelligeorge
Instagram  russelligeorge
Twitter  russ_george

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2025 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree