Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Janet Finch-Saunders AS

  • Tweet
Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy. Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd.
  • Aelodau’r Senedd Cymru

Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy.

 

Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd.

Bu Janet Finch-Saunders yn cynrychioli ward Craig-y-Don a Craigside yn Llandudno am 8 mlynedd fel Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Conwy, a Chyngor Tref Llandudno am 17 flynedd. Yn 2004 etholwyd Janet yn Faer Llandudno, yn dilyn camre’i rhieni, gan i'r ddau hyn wasanaethu’n hir fel Cynghorwyr Ceidwadwyr Cymreig yn Aberconwy.

Yn ei rôl flaenorol ar y cyngor fel aelod o’r Cabinet, roedd Janet yn dal y portffolios Diogelwch Cymunedol, Anableddau a Chydraddoldeb, Diogelwch Bwyd, Lles Anifeiliaid, Safonau Masnach, Datblygu Aelodau a'r Gymraeg.

Yn 2008, daeth Janet yn Arweinydd Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ac yn Arweinydd yr Wrthblaid ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cyn hynny, roedd Janet wedi sefyll ar gyfer Senedd Cymru yn 2003 yn Wrecsam ac yn 2007 ar restr ranbarthol Gogledd Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2010, ar ôl y rhagetholiad agored cyntaf erioed i gael ei gynnal yn sedd darged Aberconwy, cafodd Janet ei hethol yn Ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig i Senedd Cymru. Yn sgil hynnny, cafodd ei hethol yn aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy yn etholiad Senedd Cymru 2011. Yn etholiad 2016, creodd hanes am mai hi oedd y person cyntaf i gael ei hailethol ddwywaith yn olynol yn yr etholaeth.

Mae Janet yn ymgyrchwr hirsefydlog dros gynyddu’r cyllid uniongyrchol i hosbisau lleol ac mae'n frwd dros gefnogi’r buddsoddiad a’r twf economaidd sydd fawr eu hangen yn Aberconwy – mae wedi ymrwymo’n gryf i gael bargen well i fusnesau bach, gweithredwyr twristiaeth a ffermwyr yng Ngogledd Cymru.

Fel entrepreneur a gwraig fusnes graff, mae Janet wedi sefydlu nifer o fusnesau lleol llwyddiannus. Mae'n cefnogi mentrau cychwyn busnes newydd a BBChau sefydledig, ac yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (2011-2016), sefydlodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach y mae bellach yn Gadeirydd arno.

Mae Janet yn briod â Gareth ac mae ganddynt fab, Adam, a merch, Hannah, sy'n oedolion bellach. Mae diddordebau Janet yn cynnwys cerdded, marchogaeth, chwaraeon ar y dŵr, ac mae'n un o selogion brwd ceir modur.

Gwasanaethodd Janet fel Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol rhwng 2011 a 2018 cyn dod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol, Plant, Pobl Ifanc a Phobl Hŷn.

.

Janet Finch-Saunders

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi

Rhoi

With your help we're building a strong voice for local Conservatives.

Any donation will make a difference.

accepted-payment-cards

Cysylltwch â Janet

Senedd Cymru
Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN

Caerdydd: 0300 200 7245
Conwy: 01492 871 198

[email protected]
www.janetfinchsaunders.org.uk

Facebook  AberconwyMS
Twitter JFinchSaunders

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2025 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Powered by Bluetree