Dr James Davies yw'r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ddyffryn Clwyd. Cafodd ei ail-ethol yn AS dros Ddyffryn Clwyd yn 2019.
Ganwyd James yn Llanelwy a magwyd ym Mhrestatyn, ac mae sawl cenhedlaeth o'i deulu yn dod o'r Rhyl a Dinbych.
Mae James yn briod â Nina, sy'n nyrs ardal, ac mae ganddynt ddau blentyn ifanc.
Cynrychiolodd Prestatyn fel cynghorydd lleol am 11 mlynedd, cyn cael ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ddyffryn Clwyd rhwng 2015 a 2017.
Mae James wedi gweithio fel meddyg yn y GIG am 15 mlynedd a hyfforddodd fel meddyg iau yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan. Bu’n eiriolwr clinigol dros ddementia am nifer o flynyddoedd. Rhwng etholiadau 2017 a 2019, treuliodd flwyddyn yn gweithio fel meddyg yn y Rhyl a misoedd lawer mewn meddygfeydd eraill ac yn y gwasanaethau Y Tu Allan i Oriau yn y rhanbarth. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth ddofn iddo o lawn faint y methiannau yn y GIG datganoledig yng Nghymru a redir gan Lafur.
Mae James yn mwynhau treulio amser gyda'i deulu ifanc, gweithio yn y gymuned leol, cerdded, teithio, Sbaeneg a DIY. Mae'n aelod o Gymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Rotary a'r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn.
Mae'n falch o gael cynrychioli’r ardal sydd mor bwysig iddo unwaith eto.
Ers iddo ddychwelyd i'r Senedd, mae James wedi cael ei ethol yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn Gadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ogledd Cymru a Dyfrdwy Merswy.