Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

David Davies AS

  • Tweet
Aelod o Senedd y DU dros Fynwy.
  • MP

Ganwyd David yn 1970 a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Basaleg yng Nghasnewydd, De Cymru.

Ar ôl gadael yr ysgol, aeth David i weithio i British Steel cyn ymuno â’r Fyddin Diriogaethol a gwasanaethu am 18 mis fel Gynnwr gyda Chatrawd Amddiffyn Awyr 104 ym Marics Rhaglan, Casnewydd. Treuliodd nifer o flynyddoedd dramor, yn bennaf yn Awstralia, yn gwneud amrywiol swyddi ‒ yn cynnwys hyrwyddwr clwb nos, cynaeafwr tybaco a ‘gyrrwr ricsio’.

Ar ôl dychwelyd i'r DU, cafodd drwydded HGV a gweithio fel gyrrwr lori ar y cyfandir cyn camu i mewn i redeg busnes cludiant y teulu.

Yn 1999, helpodd i sefydlu a rhedeg yr ymgyrch yn erbyn Cynulliad Cymru. Pan sefydlwyd y Cynulliad, safodd dros Fynwy ar sail gwrthwynebu'r egwyddor o ddatganoli, gan addo gwrthwynebu rhoi mwy o bwerau iddo, a sefyll o blaid yr Undeb. David oedd yr unig Geidwadwr i gael ei ethol i unrhyw etholaeth yng Nghymru, ac yn etholiad 2003 enillodd y mwyafrif mwyaf o blith holl Aelodau’r Cynulliad o unrhyw blaid. Yn 2005, cafodd ei ethol am y tro cyntaf yn Aelod Seneddol dros Fynwy.

Mae David yn siarad Cymraeg yn rhugl ar ôl dysgu'r iaith gan gychwyn o ddim. Mae wedi derbyn yr anrhydedd Siaradwr Cymraeg y Flwyddyn ac yntau oedd yr AC cyntaf i annerch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn Gymraeg.

Ym Mehefin 2010, cafodd David ei ethol yn gadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig. Cafodd ei ail-ethol i wasanaethu am ail dymor ym Mehefin 2015. Mae'n gyn-aelod o’r Pwyllgor Materion Cartref a gwasanaethodd am naw mlynedd fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae'n eiriol dros fesurau llym i fynd i’r afael â throsedd.

Ym mis Ionawr 2012, cyhoeddodd y Prif Weinidog benodiad David yn gynrychiolydd dirprwyaeth y DU i Gynulliad Seneddol Cyngor Ewrop.

Chwaraeodd David ran flaenllaw yn yr ymgyrch Pleidleisio dros Ymadael yn Refferendwm yr UE ar 23 Mehefin 2016 ac mae'n gefnogwr Brexit huawdl. 

Ar 16 Rhagfyr 2019, penodwyd David yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru ac yn Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth.

Mae'n frwd am chwaraeon, mae wedi cystadlu fel 'The Tory Tornado' mewn nifer o ornestau bocsio elusennol ac mae'n gyn-Lywydd Cymdeithas Focsio Amatur Cymru. Roedd gynt yn syrffiwr brwd, ac mae’n parhau i ymweld â Rest Bay Porthcawl neu Lanilltud Fawr – ond mae’n cyfaddef bod ymrwymiadau teuluol wedi cyfyngu bellach ar y cyfleoedd i ddeifio i'r dŵr!

Priododd David a'i gariad Hwngaraidd hirdymor, Aliz, ym mis Hydref 2003. Maen nhw'n byw yn Nhrefynwy gyda'u tri o blant.

David Davies

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd
  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Arweinwyr Grwpiau Cyngor

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi
  • MP

Rhoi

Mae angen i ni feithrin llais cryf i’r Ceidwadwyr lleol ac ni allwn wneud hyn heb eich help chi.

Bydd unrhyw rodd yn gwneud gwahaniaeth.

accepted-payment-cards

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2023 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree