Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Alun Cairns AS

  • Tweet
Aelod o Senedd y DU dros Fro Morgannwg
  • MP

Cafodd Alun Cairns ei ethol yn Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg am y tro cyntaf ym mis Mai 2010.

Mae'n byw yn yr etholaeth gyda'i wraig Emma, sy'n rhedeg busnes bach, a'u mab Henri. Roedd tad Alun yn weldiwr yn British Steel ac roedd ei fam yn cadw siop.

Daeth yn ymwybodol o wleidyddiaeth pan oedd yn tyfu i fyny mewn cymuned ddifreintiedig ger Abertawe. Gwelodd aelod agos o'r teulu, a oedd yn cadw siop fwyd fechan, yn gweithio dydd a nos am bron 50 mlynedd, ac yna'n ei chael ei hun yn dlotach na'i chymdogion nad oeddent wedi gweithio erioed, er y gallent fod wedi gwneud. Teimlai ei bod yn annheg bod pobl oedd yn gallu gweithio yn cael byw ar fudd-daliadau, tra bod eraill yn gweithio oriau hir am ychydig gydnabyddiaeth. Wrth gwrs, mae eisiau sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai sydd wir yn methu gweithio.

Roedd cael ei ethol yn AS dros y Fro ym mis Mai 2010 yn anrhydedd ac yn fraint. Mae wrth ei fodd yn y rôl hon. Mae gweithio yn y Senedd yn San Steffan yn gyffrous, yn brysur, ac yn bwysig ar gyfer cyflawni’r newidiadau mae wedi'u nodi. Gall gwaith achos yr etholaeth fod yn anodd, yn foddhaus, ac yn amrywiol dros ben.

Fel Aelod o’r Cynulliad (etholwyd am y tro cyntaf yn 1999), safodd o blaid pobl nad oeddent wedi cael chwarae teg gan gyrff cyhoeddus (a phreifat). Mae wedi datblygu diddordeb penodol mewn Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Mae gormod o rieni yn gorfod ymladd dros y pethau mae ganddynt hawl iddynt. Mae cael datganiadau AAA i blant yn broses gymhleth ac mae disgyblion a ddylai fedru cyfrannu i gymdeithas yn ddiweddarach yn eu hoes yn cael eu methu.

Un o'i oriau mwyaf balch oedd pan lwyddodd i orfodi’r Llywodraeth i newid Polisi'r Cynulliad ar ôl iddo eiriol dros achos Anghenion Arbennig lleol – profodd fod canllawiau Llywodraeth Cymru yn groes i'r gyfraith.

Ym mis Gorffennaf 2014, daeth Alun yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru ac yn Chwip y Llywodraeth. Yn ddiweddarach, ym Mawrth 2016, cafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru a gwasanaethodd yn y rôl hon tan fis Hydref 2019.

Cyn cael ei ethol, bu’n gweithio i Fanc Lloyds (Lloyds TSB yn ddiweddarach) am dros 10 mlynedd – yn bennaf mewn datblygu busnes. Roedd ei swydd olaf yn ymwneud â chydymffurfiaeth yn y gwasanaethau ariannol.

Ei ddiddordeb mawr arall yw materion economaidd ac enillodd radd MBA fel myfyriwr aeddfed gan arbenigo mewn polisi mewnfuddsoddi. Arweiniodd hyn at ei rôl fel Llefarydd Economaidd y Blaid Geidwadol yng Nghymru a chyfrifoldeb am gysgodi ac archwilio Rhodri Morgan yn nyddiau cynnar y Cynulliad, yn anterth y ddadl ar Amcan 1.

Mae'n frwd dros y gymuned ac mae eisiau chwarae ei ran i'w newid er gwell. Mae rhyddhau busnes i greu cyfoeth a diwygio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn hepgor gwastraff yn ddau o flaenoriaethau Alun.

Yn Etholiad Cyffredinol 2019, cafodd Alun ei ail-ethol yn Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg.

Alun Cairns

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd
  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Arweinwyr Grwpiau Cyngor

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi
  • MP

Rhoi

Mae angen i ni feithrin llais cryf i’r Ceidwadwyr lleol ac ni allwn wneud hyn heb eich help chi.

Bydd unrhyw rodd yn gwneud gwahaniaeth.

accepted-payment-cards

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2023 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree