
Aelod Senedd Cymru dros De Orllewin Cymru
Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg, Sgiliau a’r Gymraeg.
Cafodd Suzy ei hethol am y tro cyntaf yn 2011 a’i dychwelyd fel un o'r pedwar AS rhanbarthol dros Orllewin De Cymru yn 2016.
Ar ôl gyrfa mewn marchnata a rheoli a ddechreuodd yn Theatr y Grand Abertawe, bu Suzy, sy'n siaradwr Cymraeg, yn gyfreithiwr ar y stryd fawr am lawer o flynyddoedd. Mae'n briod â Geraint, sy'n rhedeg busnes twristiaeth ac amaeth y teulu, ac mae ganddynt ddau fab.
Mae Suzy wedi hyfforddi fel mentor i weithio gyda throseddwyr ifanc a theuluoedd agored i niwed, ac ar ben hynny mae wedi bod yn ymddiriedolwr ar nifer o brosiectau plant ac wedi gwirfoddoli gyda grwpiau cymorth cymunedol. Mae hefyd yn aelod o ddau grŵp ffocws iechyd ac mae wedi gwasanaethu fel cynghorydd cymunedol a llywodraethwr ysgol. Mae Suzy wedi ysgrifennu i nifer o gyhoeddiadau ac roedd yn un o aelodau bwrdd sefydlol Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru.
Mae Suzy wedi ymroi i ymgyrchu yn erbyn cau ysbytai a swyddfeydd post cymunedol; mae wedi gweithio ar faterion llifogydd ar draws y rhanbarth; mae wedi ymladd dros lwybrau diogel i ysgolion, gan lwyddo i newid y gyfraith yng Nghymru; mae Suzy hefyd wedi ymgyrchu i wella'r economi leol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal, mae Suzy wedi cydweithio gyda busnesau lleol i annog y defnydd o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd.
Ers etholiad Senedd Cymru yn 2016, mae Suzy wedi bod yn Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, Darlledu a'r Gymraeg.
Yn 2018, roedd Suzy yn un o'r ymgeiswyr yn y gystadleuaeth i ddod yn Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Ar ôl y gystadleuaeth, daeth Suzy yn Weinidog yr Wrthblaid dros Addysg a'r Gymraeg, a chafodd ei phenodi'n Hyrwyddwr Amrywiaeth yr Arweinydd. Mae hefyd yn llefarydd dros Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ar hyn o bryd mae'n eistedd ar Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Senedd Cymru, ac ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc, ac Addysg, ynghyd â chadeirio'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth. Mae hi hefyd yn Gadeirydd MenywodiEnnill Cymru sydd â'r nod o annog mwy o fenywod i sefyll dros y Blaid Geidwadol.
Yn ogystal, mae hi'n un o bedwar Comisiynydd Senedd Cymru ac mae'n arwain ar bensiynau a materion ariannol ystad Senedd Cymru.
Mae Suzy wedi ysgrifennu i nifer o gyhoeddiadau yn cynnwys y Sefydliad Materion Cymreig, Brexit Central, y Ganolfan Astudiaethau Cymreig, a Conservative Home, ac mae wedi siarad ar baneli dros y Gymdeithas Diwygio Etholiadol a'r Grŵp Diwygio Ceidwadol. Mae hi hefyd yn Gadeirydd MenywodiEnnill Cymru sydd â'r nod o annog mwy o fenywod i sefyll dros y Blaid Geidwadol.