Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Peter Fox AS

  • Tweet
Aelod o Senedd Cymru dros Fynwy. Gweinidog Cyllid yr Wrthblaid.

Mae Peter Alan Fox yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Mynwy, a chyn hynny roedd yn arweinydd Cyngor Sir Mynwy rhwng 2008 a 2021. Ym Mehefin 2021, cafodd Peter ei benodi'n Weinidog yr Wrthblaid dros Gyllid.

Mae cefndir Peter ym myd ffermio. Roedd ei deulu'n ffermwyr llaeth yn wreiddiol, gan symud i fferm yn Sir Gâr yn y 1970au ac yna i Ben-allt yn Sir Fynwy yn 1981.

Roedd Peter yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Ystrad Tywi yng Nghaerfyrddin, ac yna astudiodd yng Ngholeg Technegol ac Amaethyddol Caerfyrddin.

Dechreuodd Peter ei yrfa ym myd gwleidyddiaeth yn 1997 pan gafodd ei ethol yn gynghorydd sir Ceidwadol i ward etholiadol Porthsgiwed, a chafodd ei ail-ethol yn 2004, 2008, 2012 a 2017.

Ar ôl sefydlu busnes ffermio llwyddiannus, trefnodd Peter ymweliadau i ffermydd gan ymwelwyr rhyngwladol o Rwmania a Gweriniaeth Tsieina.

Hyd yma, un o lwyddiannau mwyaf Peter fu chwarae rhan ganolog yn negodi a sicrhau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth gwerth £1.3 Biliwn yn 2016 ‒ y Fargen Ddinesig fwyaf yn y DU. Ar ôl hyn, penodwyd yn Ddirprwy Gadeirydd Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gyda chyfrifoldeb am y Portffolio Busnes ac Arloesedd.

Yn ei amser hamdden, mae Peter yn ffermio ym Mhorthsgiwed yn ne Sir Fynwy lle mae'n byw gyda'i wraig, Jo.

Peter Fox

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd
  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Arweinwyr Grwpiau Cyngor

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi
  • MP

Rhoi

Mae angen i ni feithrin llais cryf i’r Ceidwadwyr lleol ac ni allwn wneud hyn heb eich help chi.

Bydd unrhyw rodd yn gwneud gwahaniaeth.

accepted-payment-cards

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2022 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree