
Aelod Senedd Cymru dros Mynwy.
Cafodd Nick ei eni a'i fagu'n lleol a bu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog. Aeth yn ei flaen i astudio ym Mhrifysgolion Durham a Chaerdydd. Ar ôl cyfnod yn y sector preifat ac yn gweithio fel cynghorydd gwleidyddol, etholwyd Nick i Gyngor Sir Mynwy yn 2004 yn ward Mardy ger Y Fenni.
Yn ei rôl fel cynghorydd lleol, roedd Nick ynghlwm wrth nifer o ymgyrchoedd yn cefnogi’r preswylwyr ac yn sefyll o blaid pobl leol.
Cafodd Nick ei ethol i Senedd Cymru am y tro cyntaf yn 2007 ac ers hynny mae wedi bod yn gyfrifol am bortffolios gweinidogol uchaf yr wrthblaid yn cynnwys Llywodraeth Leol, Busnes ac Iechyd. Ar hyn o bryd mae Nick yn Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid ac mae'n cadeirio'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dylanwadol sy'n craffu ar wariant Llywodraeth Lafur Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Ym mis Medi 2018, ailbenodwyd Nick yn Weinidog yr Wrthblaid dros Gyllid, a chafodd ei benodi hefyd yn Llysgennad Aelodaeth Plaid Geidwadol Cymru.
Cafodd Nick ei ailethol gan bobl Trefynwy ym mis Mai 2016 gyda mwyafrif o dros 5,000 o bleidleisiau. Mae Nick wedi rhedeg nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus, yn cynnwys i ddiogelu Sir Fynwy rhag cael ei diddymu, ac mae wedi ymladd ar y cyd â phreswylwyr lleol dros gael Cronfa i Gleifion Canser Cymru er mwyn rhoi terfyn ar y loteri cod post wrth gael cyffuriau canser sy'n estyn bywyd.