Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Laura Anne Jones AS

  • Tweet

Aelod Senedd Cymru dros Ddwyrain De Cymru.

Gweinidog yr Wrthblaid dros Tai a Llywodraeth Leol, Cydraddoldeb, Plant a Phobl Ifanc.

Cafodd Laura Anne Jones ei hethol i Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2020 fel yr AS dros Ddwyrain De Cymru. Ar ôl cael ei hethol, penodwyd Laura i Gabinet yr Wrthblaid yn y Senedd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gydraddoldebau, Plant a Phobl Ifanc.

Mae Laura yn eistedd ar Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ac ar y Pwyllgor Materion Allanol sy'n chwarae rhan yn arolygu ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Cyn hynny, gwasanaethodd Laura fel yr Aelod Cynulliad dros Ddwyrain De Cymru rhwng 2003 a 2007, pan fu’n Weinidog yr Wrthblaid dros Chwaraeon yn y Cynulliad.

O 2017 ymlaen, gwasanaethodd Laura fel Cynghorydd Sir yn Sir Fynwy dros ward Wyesham a chafodd ei phenodi'n Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Sir. Roedd hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Blant a Phobl Ifanc, lle ymddiddorodd Laura mewn cyrhaeddiad a chyfleoedd ar gyfer plant agored i niwed yn bennaf.  Mae Laura wedi rhedeg ei busnes ei hun yn y gorffennol.

Ganwyd Laura ym Mrynbuga, yn ferch i ffermwr, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Caerllion a Phrifysgol Plymouth.  Mae Laura yn cefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau yn y gymuned leol yn Sir Fynwy, ac yn 2020 rhedodd nifer o grwpiau cymorth Coronafeirws i helpu teuluoedd sy’n agored i niwed ac ar y rhestr warchod.

 

 

Laura Anne Jones AS

Eich Cynrychiolwyr

  • Paul Davies AS
  • Arweinwyr Grwpiau Cyngor

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi

Rhoi

Mae angen i ni feithrin llais cryf i’r Ceidwadwyr lleol ac ni allwn wneud hyn heb eich help chi.

Bydd unrhyw rodd yn gwneud gwahaniaeth.

accepted-payment-cards

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Site logoHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2021 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree