Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Hafan
  • Newyddion
  • Eich Cynrychiolwyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltu â Ni
  • ENG
Site logo

Fay Jones AS

  • Tweet
Aelod o Senedd y DU dros Aberhonddu a Sir Faesyfed.

Cafodd Fay Jones AS ei hethol yn Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Rhagfyr 2019.

Ganwyd a magwyd Fay yng Nghaerdydd ac aeth i ysgol gyfun leol cyn astudio Ffrangeg yng Ngholeg y Brenin, Prifysgol Llundain. 

Yn 18 oed, gadawodd Fay ei chartref a symud i Frwsel i weithio i Jonathan Evans ASE (cyn-AS dros Frycheiniog a Sir Faesyfed), cyn symud i Lundain fel ymchwilydd i David Jones AS yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol. Ar ôl graddio, swydd gyntaf Fay oedd fel ymchwilydd i'w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Yn 2012, symudodd Fay i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i ymuno â thîm negodi'r DU ar ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 2011. Gan weithio'n agos gyda'r sector ffermio, ei gwaith oedd ennill cefnogaeth i amcanion ac uchelgeisiau'r DU. Ar ôl hynny, ymunodd Fay ag Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, gan dreulio bron pum mlynedd yn gweithio dros ffermwyr y DU, yn cynnwys swydd tair blynedd yn swyddfa'r NFU ym Mrwsel. Yn ystod y cyfnod o ail-negodi a'r refferendwm, sicrhaodd Fay bod Aelod-wladwriaethau Ewrop yn clywed llais ffermwyr y DU.

Daeth Fay yn ôl i Gymru yn 2017, a nawr mae'n byw y tu allan i Grucywel. Yn ystod haf 2019, gwirfoddolodd Fay i gyd-drefnu ymgyrch arweinyddiaeth Boris Johnson yng Nghymru, gan greu ymchwydd o gefnogaeth i'r Prif Weinidog presennol.  

Y tu allan i fyd gwleidyddiaeth, mae Fay yn frwd am ymarfer. Roedd gynt yn llywiwr gyda Chlwb Rhwyfo Twickenham, ac mae wedi cyflawni sawl hanner marathon a thriathlon i gefnogi elusennau. Yn 2014, rhedodd ym Marathon Efrog Newydd er budd Prostate Cancer UK – gan godi dros £10,000. Mae Fay yn gogydd amatur brwd ac mae wrth ei bodd yn coginio i deulu a ffrindiau – mae'n arbennig o hoff o ddefnyddio cynnyrch lleol enwog Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Fay Jones

Eich Cynrychiolwyr

  • Arweinydd Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd
  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • Arweinwyr Grwpiau Cyngor

Show only

  • Aelodau’r Senedd Cymru
  • Arglwyddi
  • MP

Rhoi

Mae angen i ni feithrin llais cryf i’r Ceidwadwyr lleol ac ni allwn wneud hyn heb eich help chi.

Bydd unrhyw rodd yn gwneud gwahaniaeth.

accepted-payment-cards

The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig

Footer

  • Cefndir RSS
  • Cwcis
  • Hygyrchedd
  • Polisi Diogelu Data Phreifatrwydd
Welsh ConservativesHyrwyddwyd gan Blaid Geidwadol Cymru, a phob un yn, Uned 5, Canolfan Fusnes Pro-copy, Parc Tŷ Glas, Caerdydd CF14 5DU
Hawlfraint 2023 The Welsh Conservative Party | Ceidwadwyr Cymreig . Cedwir pob hawl.
Wedi’i bweru gan Bluetree