
Aelod Senedd Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.
Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae Angela yn briod â Stuart, yn fam i ddau blentyn, ac yn ystyried ei hunan yn ferch o'r wlad y mae ei chalon yn y ddinas. Magwyd Angela mewn nifer o wledydd ledled y byd oherwydd gwaith ei thad yn y fyddin, a phan adawodd yr ysgol, ymddiddorodd ym myd busnes.
Mae wedi gweithio i amrywiaeth o gwmnïau, fel Waitrose, Thorn EMI ac Asda, ynghyd â nifer o fentrau llai, ac mae wedi dal swyddi hyd at lefel Cyfarwyddwr.
Yn ystod ei hamrywiol swyddi, mae Angela wedi byw a gweithio yn Llundain, Bryste, Rugby, Leeds a'r Unol Daleithiau, cyn iddi ymsefydlu yn Sir Benfro gyda'i theulu.
Cafodd Angela ei hethol yn Aelod Senedd y Ceidwadwyr Cymreig dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ym mis Mai 2007 gan gipio'r sedd oddi wrth Lafur gyda mwyafrif o 98. Cafodd ei hailethol gyda mwyafrifoedd uwch yn etholiadau 2011 a 2016.
Yn ystod ei hamser yn aelod o Senedd Cymru, mae wedi gwasanaethu fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyllid, Gweinidog yr Wrthblaid dros Adfywio a Thrafnidiaeth, Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg, ynghyd ag eistedd ar y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Pobl Ifanc ac Addysg. Yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, penodwyd Angela yn un o Gomisiynwyr Senedd Cymru, a olygai y byddai'n dirprwyo i'r Swyddog Llywyddu yn y Siambr o bryd i’w gilydd.
Yn dilyn ei hetholiad yn 2016, penodwyd Angela yn Weinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Lles ac mae'n eistedd ar y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghyd â Chadeirio'r Grwpiau Trawsbleidiol ar Sepsis, Ymchwil Meddygol a Chlefydau Prin.