“Mae angen ffrind ar ffermio” meddai'r Ceidwadwyr Cymreig wrth iddynt lansio’u gweledigaeth amgen ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru yn Sioe Frenhinol Cymru.
Bydd cynllun Samuel Kurtz AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Gwledig, yn diogelu, hybu, ac yn cynnal amaethyddiaeth yng Nghymru wrth i'r Blaid geisio gweithio gyda ffermwyr yn hytrach nag yn eu herbyn – dyna yw eu barn am y sefyllfa bresennol dan y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd. Mae iddo dair ffrwd:
- Diogelu: parhau i gynnal y safonau cynhyrchu a lles anifeiliaid uchel sy'n golygu bod cynnyrch amaethyddol Cymru ymhlith y gorau yn y byd, a gofalu am ein ffermwyr a'u hiechyd meddwl gan sicrhau bod ein diwydiant domestig yn ein diogelu rhag newidiadau byd-eang.
- Hybu: gweithio ar draws diwydiannau i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch Cymreig gartref a thramor ac ychwanegu gwerth at gynnyrch crai. Y rôl y gall, ac y mae, amaethyddiaeth yn ei chwarae wrth ddiogelu ein hamgylchedd.
- Cynnal: helpu'r diwydiant i wella ein cynaliadwyedd a’n sicrwydd bwyd er mwyn dygymod ag effeithiau costau tanwydd, porthiant a gwrtaith uchel, a datblygu cyfleoedd ar yr un pryd i newydd-ddyfodiaid ddod i mewn i'r diwydiant.
Yn dilyn sgyrsiau gyda phrif gyrff y diwydiant, byddai Bil Amaethyddiaeth Amgen y Ceidwadwyr Cymreig:
- Yn canolbwyntio ar sicrwydd bwyd, gan alluogi Cymru i gynhyrchu mwy o'i bwyd a lleihau ei dibyniaeth ar fewnforion o'r tu allan i'r DU yn y cyfnod byd-eang heriol a chythryblus hwn;
- Yn gynaliadwy ac yn deall y berthynas rhwng y tir a'r rhai sy'n gweithio arno;
- Mor syml i'w weinyddu a'i gyflwyno â phosibl, ac yn canolbwyntio ar y rhai hynny sydd wrthi'n gweithio’u tir;
- Yn annog buddsoddi mewn ffermwyr a'r diwydiant amaethyddol, ac yn cefnogi newydd-ddyfodiaid a'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr Cymreig; ac
- Yn sicrhau bod ffermwyr Cymru yn gallu cystadlu â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r DU a'r UE ar faes chwarae gwastad a chyfartal.
Mae'n amser anodd i'r diwydiant amaethyddol sy'n gorfod ymgodymu â pholisi marwaidd y Llywodraeth Lafur ar TB buchol, creu’r Parthau Perygl Nitradau dadleuol ledled Cymru, a pheidio â chynnal uwchgynhadledd bwyd i ymdrin â phrisiau sy’n codi.
Ddoe, galwodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS, unwaith eto ar Mark Drakeford i efelychu gweithredoedd Llywodraeth Geidwadol y DU yn Lloegr a rhoi hanner eu cyllid Cynllun y Taliad Sylfaenol i ffermwyr chwe mis yn gynnar i’w helpu i fynd i'r afael â chostau cynyddol a chadwyni cyflenwi annibynadwy.
Meddai Samuel Kurtz, AS y Ceidwadwyr Cymreig dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro:
“Rydw i wedi dweud erioed bod angen ffrind ar ffermio, ac rwy'n credu bod y cynllun hwn yn brawf mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r ffrind hwnnw. Rydyn ni eisiau gweithio gyda'r diwydiant i gyflawni ein nodau cyffredin a fydd yn fuddiol i gymunedau ar draws Cymru.
“Dyna pam mae meddyliau a gofynion sefydliadau amaethyddol wedi bod yn sail i'r gwaith hwn: gan lunio ein polisi ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod ceidwaid y tir wrth galon ein hymagwedd at ddiogelu, hybu, a chynnal yn gynaliadwy ym myd amaethyddiaeth yng Nghymru, er budd cenedlaethau heddiw a rhai'r dyfodol.
“Bydd cyflawni'r amcanion allweddol a esbonnir yn ein Bil Amaethyddiaeth Amgen yn cyfoethogi ein cymunedau gwledig, yn cefnogi ein hamcanion amgylcheddol a natur, yn diogelu ein diwylliant a'n hiaith, ac yn sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru yn gadarn, yn wydn ac yn barod am heriau'r 21ain ganrif.”
Nodiadau i Olygyddion: Gweler Bil Amaethyddiaeth Amgen y Ceidwadwyr Cymreig isod.
Bil Amaethyddiaeth Amgen y Ceidwadwyr Cymreig
Yn sgil cyhoeddi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy Newydd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn, a chyn cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth (Cymru) o’r diwedd yn yr Hydref, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio'u cynllun hwythau i “ddiogelu, hybu a chynnal” ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru.
- Diogelu: parhau i gynnal y safonau cynhyrchu a lles anifeiliaid uchel sy'n golygu bod cynnyrch amaethyddol Cymru ymhlith y gorau yn y byd, a gofalu am ein ffermwyr a'u hiechyd meddwl gan sicrhau bod ein diwydiant domestig yn ein diogelu rhag newidiadau byd-eang.
- Hybu: gweithio ar draws diwydiannau i ddatblygu marchnadoedd ar gyfer cynnyrch Cymreig gartref a thramor ac ychwanegu gwerth at gynnyrch crai. Y rôl y gall, ac y mae, amaethyddiaeth yn ei chwarae wrth ddiogelu ein hamgylchedd.
- Cynnal: helpu'r diwydiant i wella ein cynaliadwyedd a’n sicrwydd bwyd er mwyn dygymod ag effeithiau costau tanwydd, porthiant a gwrtaith uchel, a datblygu cyfleoedd ar yr un pryd i newydd-ddyfodiaid ddod i mewn i'r diwydiant.
“Mae angen ffrind ar ffermio”
Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru a'i hasiantaethau’n gweithio gyda'n ffermwyr ac nid yn eu herbyn – fel sy'n digwydd ar hyn o bryd ym marn llawer yn y diwydiant. Y Ceidwadwyr Cymreig fydd y ffrind hwnnw.
Yn sgil trafodaethau gyda llawer o brif gyrff y diwydiant, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cynllunio dull amgen o gefnogi Amaethyddiaeth yng Nghymru.
Bydd y polisi hwn:
- Yn canolbwyntio ar sicrwydd bwyd, gan alluogi Cymru i gynhyrchu mwy o'i bwyd a lleihau ei dibyniaeth ar fewnforion o'r tu allan i'r DU yn y cyfnod byd-eang heriol a chythryblus hwn;
- Yn gynaliadwy ac yn deall y berthynas rhwng y tir a'r rhai sy'n gweithio arno;
- Mor syml i'w weinyddu a'i gyflwyno â phosibl, ac yn canolbwyntio ar y rhai hynny sydd wrthi'n gweithio’u tir;
- Yn annog buddsoddi mewn ffermwyr a'r diwydiant amaethyddol, ac yn cefnogi newydd-ddyfodiaid a'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr Cymreig; ac
- Yn sicrhau bod ffermwyr Cymru yn gallu cystadlu â'u cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r DU a'r UE ar faes chwarae gwastad a chyfartal.
Sicrwydd Bwyd
Bydd yr holl fyd yn dioddef effeithiau gwrthdaro byd-eang, yn enwedig yn Wcráin, am lawer o flynyddoedd. Felly mae creu sicrwydd bwyd yr un mor bwysig â chreu sicrwydd ynni. Mae angen i ni sicrhau bod Cymru yn gallu cynhyrchu cyflenwad sefydlog o fwyd fforddiadwy, a gynhyrchir i'r safonau uchaf o ran diogelwch, ansawdd a maeth. Mae'n rhaid i'r llywodraeth weithio gydag adrannau eraill a Llywodraeth y DU hefyd i ddarparu cadwyni cyflenwi mwy sefydlog, i sicrhau bod seilwaith yn ei le i ymateb i newidiadau sydyn mewn galw, ac i ddatblygu ‘gwerth ychwanegol’ ar gynnyrch crai Cymreig.
Cynaliadwyedd
Mae'n hanfodol bod ymagwedd gynaliadwy yn cael ei harwain gan y ffermwyr. Y nhw sy'n gwybod beth sy'n gweithio orau iddyn nhw ar eu ffermydd. Rhaid i unrhyw bolisi adlewyrchu'r gwahaniaethau daearyddol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ym mhob ardal leol. Dim rhagor o bolisïau unffurf, ond pecyn o fesurau sy'n helpu i gyflawni'r targedau a'r uchelgeisiau ledled Cymru wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.
Cynlluniau Cyllido a Buddsoddi mewn Ffermio
Dylai ceisiadau am gyllid fod yn syml i'w llenwi, yn lleihau oedi, ac yn sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y rhai sydd â'i angen fwyaf. Dylai unrhyw ffermwyr sy'n cael anhawster i lenwi'r cyfryw geisiadau fedru cael cymorth yn hawdd. Mae'n bwysig nad yw’r cynlluniau’n cael effaith anghynaliadwy ar ddefnydd tir yng Nghymru gan fydd hyn yn effeithio'n sylweddol ar ddiwylliant a chyfansoddiad ein cymunedau gwledig.
Rhaid cyfeirio buddsoddiad â chymorth y Llywodraeth at y busnesau hynny a fydd yn elwa fwyaf. Mae'n hanfodol bod buddsoddiad yn hybu cynnydd cynaliadwy mewn cynhyrchiant, gan alluogi ffermwyr i gynhyrchu'r un meintiau, neu fwy o fwyd gyda llai o ymyrraeth, yn fwy hwylus, gyda'r manteision amgylcheddol a ddaw yn sgil hynny. Rhaid cynnig cyngor cadarn ar y cyd â'r buddsoddiad ychwanegol hwn â gefnogir gan y Llywodraeth, er mwyn rhannu technegau ac arfer da.
Ynghyd â buddsoddi mewn ffermydd, mae angen buddsoddi mewn ffermwyr. Dylai'r Llywodraeth gydweithio'n agosach gyda sefydliadau fel y Clybiau Ffermwyr Ifanc i sicrhau bod ffermio'n cael ei ystyried yn ddiwydiant deniadol i weithio ynddo. Mae angen i adrannau eraill y Llywodraeth chwilio am ffyrdd o ddarparu tai fforddiadwy i'r rhai hynny sydd eisiau mynd i mewn i'r diwydiant neu aros ynddo, gan ystyried y posibilrwydd o lacio'r deddfau cynllunio ar gyfer tai allan ar ffermydd.
Maes Chwarae Cyfartal
Mae'n rhaid i'r broses bontio o'r PAC i'r polisi amaethyddol newydd sy'n benodol i Gymru fod mor llyfn a chadarn â phosibl. Ni ddylid cael gwared â'r strwythur a ddefnyddir i weithredu’r PAC nes bod tystiolaeth y gall y cynllun newydd gyflawni ei amcanion. Rhaid i unrhyw gynlluniau gynnig sicrwydd tymor hir i’n ffermwyr ac mae angen bwrw ati i ddysgu oddi wrth gynlluniau eraill o gwmpas y byd o ran darparu’r cymorth gorau fel y gall Ffermwyr Cymru gystadlu mewn marchnad mor fyd-eang â phosibl.
Bydd cyflawni'r amcanion allweddol hyn yn cyfoethogi ein cymunedau gwledig, yn cefnogi ein hamcanion amgylcheddol, yn diogelu ein diwylliant a'n hiaith, ac yn sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru yn gadarn, yn wydn ac yn barod ar gyfer heriau'r 21ain ganrif.